#
Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil: Meithrin gallu plant i wrthsefyll seiberfwlio
Rhif y ddeiseb: P5-05-752 Teitl y ddeiseb: Meithrin gallu plant i wrthsefyll seiberfwlio Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu a chynnal gwaith ymchwil yn seiliedig ar dystiolaeth, a chynhyrchu strategaeth ac argymhellion i feithrin gallu ein plant, o’u plentyndod cynnar, i wrthsefyll effeithiau distrywiol seiberfwlio. Dylai’r strategaeth gynnwys cyngor i rieni ac ysgolion ynghylch: § sut i greu safbwyntiau iach a chreu perthynas iach ag eraill ar y cyfryngau cymdeithasol § sut i baratoi plant i adnabod ac amddiffyn eu hunain rhag y math o ymddygiad sy’n cyfateb i seiberfwlio § sut i ddysgu plant i wahanu profiadau ar-lein oddi wrth brofiadau bywydau ‘go iawn’ § sut i feithrin gallu plant i ymdopi’n emosiynol ag ymosodiadau personol ar-lein. |
Cefndir
Dyletswyddau cyfreithiol
Mae dyletswydd gyfreithiol ar bob ysgol yng Nghymru i sicrhau bod unrhyw fath o fwlio yn cael ei drin yn effeithiol. Mae amrywiaeth o ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i Gymru â’r nod o amddiffyn plant a phobl ifanc rhag camdriniaeth, gan gynnwys bwlio. Mae’r ddeddfwriaeth bresennol sy’n berthnasol i fwlio yn cynnwys: Deddf Cydraddoldeb 2010; Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006;Deddf Plant 2004; Deddf Addysg 2002; Deddf Llywodraeth Cymru 1998; Deddf Hawliau Dynol 1998.
Canllawiau
Yng Nghymru, cefnogir y ddeddfwriaeth hon gan ganllawiau a chylchlythyrau Llywodraeth Cymru. Nid yw’r rhain yn gosod dyletswyddau cyfreithiol yn uniongyrchol, ond maent yn rhoi canllawiau i awdurdodau lleol ac ysgolion ar sut i roi polisïau bwlio ar waith o ddydd i ddydd. Bwriad y canllawiau yw bod o gymorth i gyflawni dyletswyddau cyfreithiol.
Mae dogfen Llywodraeth Cymru Parchu Eraill: Canllawiau gwrth-fwlio: Cylchlythyr 23/03 yn nodi bod yn rhaid i benaethiaid a chyrff llywodraethu, yn ôl y gyfraith, feddu ar bolisi i atal pob math o fwlio ymysg disgyblion. Mae’r cylchlythyr yn nodi’r math o wybodaeth y dylid ei chynnwys o fewn polisi ysgol a sut y gall ysgolion fynd i’r afael â bwlio.
Mae’n amlinellu polisi bwlio ysgol gyfan, wedi’i rannu’n bedwar cam:
§ Cam 1 - Codi ymwybyddiaeth ac ymgynghori;
§ Cam 2 - Gweithredu;
§ Cam 3 - Monitro;
§ Cam 4 - Gwerthuso.
Mae’r cylchlythyr hefyd yn nodi y dylai uwch aelod o staff oruchwylio’r polisi; y dylai egwyddorion y polisi gael eu hadnewyddu’n rheolaidd i atgoffa disgyblion a staff; ac y dylai corff llywodraethu’r ysgol adolygu’r polisi yn flynyddol i sicrhau ei fod yn effeithiol. Dywed y cylchlythyr:
Mae’n arfer da i roi’r cyfrifoldeb cyffredinol dros reoli’r polisi gwrth-fwlio ac ymdrin ag achosion o fwlio, unwaith y bydd y polisi yn cael ei sefydlu i uwch athrawon.
Yn 2011, datblygodd Llywodraeth Cymru gynnwys y cylchlythyr hwn gyda chyfres o ddeunyddiau gwrth-fwlio a oedd yn darparu canllawiau ac atebion ymarferol i rwystro ac ymateb i ddigwyddiadau o fwlio mewn ysgolion: Parchu eraill: Trosolwg gwrth-fwlio (dogfen Ganllaw 050/2011). Mae’r ddogfen hon yn cynnwys trosolwg byr ac arweiniad manwl ar y pum maes canlynol o fwlio:
§ Bwlio ar sail hil, crefydd a diwylliant
§ Bwlio sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau
§ Seiberfwlio
§ Bwlio rhywiaethol, rhywiol a thrawsffobig.
Canllawiau ar Seiberfwlio
Fel y nodwyd uchod, mae un o eitemau Llywodraeth Cymru o ran canllawiau gwrth-fwlio sy’n ymdrin yn benodol â seiberfwlio (PDF 869KB). Mae hwn yn benodol ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol, rhieni / cynhalwyr, teuluoedd, dysgwyr, llywodraethwyr ysgolion, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd proffesiynol a mudiadau gwirfoddol sy’n ymwneud â phlant ysgol.
Mae canllawiau 66 tudalen Llywodraeth Cymru ar seiberfwlio yn cynnwys yr adrannau canlynol:
§ Deall seiberfwlio (gan gynnwys diffiniadau, lefelau ers 2011, a mathau gwahanol o seiberfwlio)
§ Y gyfraith sy’n ymwneud â seiberfwlio
§ Atalseiberfwlio
§ Ymateb i seiberfwlio
§ Adnoddau a darllen pellach
Mae tudalennau 33-34 yn rhoi arweiniad ar hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o seiberfwlio. Mae tudalennau 43-45 yn rhoi arweiniad ar sut i gefnogi’r sawl sy’n cael ei seiberfwlio. Mae hyn yn cynnwys yr egwyddorion allweddol canlynol:
§ Annog dysgwyr i geisio cymorth
§ Eu sicrhau eu bod wedi gwneud y peth iawn drwy ddweud wrth rywun
§ Cydnabod ei bod yn sicr wedi bod yn anodd i’r unigolyn ymdrin â’r mater
§ Ailadrodd nad oes gan neb yr hawl i wneud hynny iddynt hwy
§ Cymryd camau i sicrhau bod yr ysgol yn mabwysiadu diwylliant nad yw’n goddef seiberfwlio, gan y gall hyn hefyd fod o gymorth i wneud i’r sawl sy’n cael ei seiberfwlio deimlo’n ddiogel.
Mae’r canllawiau’n cynnwys y‘cyngor ar ymrymuso ar-lein’ canlynol, a allai fod yn arbennig o berthnasol i’r alwad am strategaeth i ddatblygu gwydnwch emosiynol plant a phobl ifanc i ymosodiadau personol ar-lein:
Mae’n bwysig cynghori’r unigolyn a gafodd ei fwlio i beidio â dial neu anfon neges yn ôl. Ymateb i’r negeseuon, yn enwedig mewn tymer, yw’r union beth mae’r bwli am i chi ei wneud, a thrwy beidio ag ymateb efallai y bydd y bwli yn meddwl nad oedd y targed wedi derbyn neu weld y neges, neu nid oedd y neges yn ei boeni. Yn lle hynny, dylai’r unigolyn gadw’r dystiolaeth a’i dangos i’w riant/gofalwr neu aelod o staff.
Dylech chi ddweud wrth y dysgwr i feddwl am yr wybodaeth sydd ganddo neu ganddi y gall y cyhoedd ei gweld a pha safleoedd mae ef neu hi’n eu cyrchu ar-lein. Mae’n bwysig bod dysgwyr yn ystyried yn ofalus i bwy maen nhw’n rhoi eu rhif ffôn symudol, ac a ddylen nhw barhau i fod yn aelodau o ystafelloedd sgwrsio, er enghraifft, lle mae pobl yn eu trin yn wael.
Gall cynghori plentyn i newid ei fanylion cyswllt, megis ei rhif adnabod gwibnegeseua neu rif ffôn symudol fod yn ffordd effeithiol o atal cyswllt nas dymunir. Fodd bynnag, mae’n bwysig i fod yn ymwybodol na fydd rhai plant yn awyddus i wneud hyn, a bydd yn ei ystyried yn ddewis olaf am resymau ymarferol a chymdeithasol, a gallan nhw deimlo eu bod nhw’n cael eu cosbi. (tudalennau 43-44)
Adroddiad Estyn, 2014
Ym mis Mehefin 2014, cyhoeddodd Estyn adroddiad thematig, Gweithredu ar fwlio. Roedd yr adroddiad yn edrych yn fanwl areffeithiolrwydd y camau a gymerwyd gan ysgolion i fynd i’r afael â bwlio, gan gyfeirio’n benodol at fwlio ar sail nodweddion gwarchodedig disgyblion (oed, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol). O ran seiberfwlio, adroddodd Estyn:
Yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd, mae disgyblion a staff yn pryderu am y cynnydd mewn bwlio seiber, yn enwedig mewn perthynas â’r nodweddion gwarchodedig. Mae bwlio seiber wedi creu mathau newydd o fwlio nad yw rhai staff yn gyfarwydd â nhw. Yn yr arfer orau, mae staff yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y technolegau y mae disgyblion yn eu defnyddio ac yn deall y potensial i’w camddefnyddio yn yr ysgol a thu hwnt. (Para 10)
Yn y rhan fwyaf o ysgolion uwchradd, mae’r cynnydd mewn bwlio seiber, fel cyfrwng ar gyfer bwlio dienw, yn destun pryder i ddisgyblion a staff. Yn gyffredinol, mae ysgolion yn gweld y math hwn o fwlio yn anodd i’w drin. Nid ydynt yn aml yn cael gwybod am hyn chwaith, am fod disgyblion yn teimlo gormod o gywilydd neu embaras i siarad amdano. Yn aml, erbyn i’r ysgol fod yn ymwybodol o fwlio seiber, mae wedi bod yn digwydd ers tro. Mae llawer o ddisgyblion yn teimlo bod y sefyllfa’n gwella wedi i oedolion fynd i’r afael â phroblemau unigol, a siarad am deimladau’r dioddefwr yn agored. Mae hyn yn aml yn cynnwys cysylltu â swyddogion cyswllt yr heddlu sy’n gweithio gyda grwpiau o ddisgyblion ac yn eu hatgoffa am oblygiadau cyfreithiol posibl bwlio seiber. (Para 28)
Mae’r cynnydd mewn bwlio seiber wedi creu mathau newydd o fwlio nad yw staff yn aml yn gyfarwydd â nhw. Nid yw llawer o staff yn ymwybodol o’r feddalwedd a ddefnyddir gan ddisgyblion i gyfathrebu â’i gilydd trwy ffonau symudol a gweithgareddau ar-lein, y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol. Yn 2012, canfu adroddiad gan Ofcom (‘Children and parents: Media use and attitudes in the nations’) fod 80% o blant 5-15 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd gartref. Mae technoleg yn rhan bwysig o fywydau plant a phobl ifanc erbyn hyn ac maent yn gwybod mwy amdani na rhai rhieni a staff. Yn yr arfer orau, mae staff yn dilyn hynt a helynt technoleg ac yn cynnal ymwybyddiaeth o’r feddalwedd a ddefnyddir gan ddisgyblion a’r potensial i’w chamddefnyddio. (Para 69)
Roedd yr adroddiad yn cynnwys astudiaethau achos o arfer gorau a oedd yn dangos y ffordd orau y mae’r ysgolion yn ymdrin â bwlio. Mae’n cynnwys astudiaeth achos benodol, o ran sut y mae Gwasanaeth Seicoleg Addysg Sir Ddinbych yn cefnogi staff, disgyblion a rhieni drwy ddarparu gwybodaeth wedi’i theilwra am seiberfwlio, a sut i’w atal. Mae adroddiad Estyn hefyd yn cynnwys rhestr wirio gwrth-fwlio. Mae’r rhestr yn cynnwys holi:
§ a oes gan ysgolion ystod o strategaethau i fynd i’r afael â seiberfwlio;
§ a yw staff ysgolion yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ffurfiau newydd o fwlio, fel seiberfwlio; ac
§ a yw ysgolion yn mynd i’r afael â seiberfwlio yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol.
Roedd Estyn yn argymell y dylai ysgolion ‘sicrhau bod gan staff ddealltwriaeth glir o’r graddau a natur bwlio a allai ddigwydd yn yr ysgol, gan gynnwys seiberfwlio’.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol, fodd bynnag, nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru na’u diwygio fel arall o reidrwydd i adlewyrchu newidiadau dilynol. |